Cymdeithasau
Ymunwch i drafod y camau y gallai'r Senedd nesaf a chymunedau Cymru eu cymryd i greu dyfodol gwell ar gyfer ein hynni wrth i ni wynebu newidiadau hirhoedlog ac arwyddocaol i'n system ynni dros y ddegawd nesaf
Mae ynni gwyrdd ar dwf, a chyda'r twf hwn daw newid. Mae'r newidiadau i'n tirwedd, ein bywydau ac ein heconomi'n barod yn achosi pryder i nifer o bobl, gan arwain at anniddigrwydd a gwrthwynebiad i brosiectau ynni gwyrdd.
Mae pobl yn aml yn ei chanfod hi'n anodd ymdopi â'r newidiadau hyn, na gweld dull amgen o weithredu.
Ond mae dyfodol gwahanol yn bosib, dyfodol lle mae gan bobl reolaeth, perchnogaeth a llais dros yr ynni sy'n cael ei gynhyrchu'n agos atynt, ynghyd â'i ddefnydd