Set lawn gan yr artist amryddawn o Fôn, sy'n cyfuno pop a soul
Dechreuodd taith gerddorol Elin Fflur yn ifanc, wedi’i hysbrydoli gan ei mam, Nêst Llewelyn Jones (Howells gynt), oedd yn brif leisydd y band roc gwerin, Brân. Bu Elin yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol ers pan oedd hi’n dair oed, gan feithrin sylfaen gref mewn perfformio.
Yn ei harddegau, ffurfiodd Elin y band pop Carlotta gyda’i brawd Ioan Llewelyn. Daeth ei llwyddiant mawr cyntaf yn 2002 pan enillodd y gystadleuaeth Cân i Gymru gyda’r gân 'Harbwr Diogel', a gyfansoddwyd gan Arfon Wyn. Yn dilyn hyn, daeth yn brif leisydd y band o Fôn, Y Moniars, gan ryddhau albwm o’r un enw yn yr un flwyddyn.
Dechreuodd ei gyrfa unigol gyda’r albwm 'Dim Gair' yn 2003. Dilynwyd hyn gan yr albymau 'Cysgodion' (2004) ac 'Hafana' (2008), 'Ysbryd Efnisien' (2009) 'Lleuad llawn' (2011). Mae’n perfformio gyda’r un band ers 2005, Siôn Llwyd, Steffan Rhys Hughes, Aled Richards a Mei Gwynedd.
Y tu hwnt i’w gyrfa fel cantores, mae Elin wedi dod yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin yng Nghymru. Ers 2011, mae'n cyd-gyflwyno Cân i Gymru, ac yn 2012, ymunodd â’r tîm cyflwyno ar y rhaglen boblogaidd Heno. Yn 2020, dechreuodd gyflwyno Sgwrs dan y Lloer, cyfres o sgyrsiau anffurfiol gydag enwogion Cymru yn eu gerddi eu hunain.
Yn Awst 2024, ehangodd Elin ei gyrfa darlledu gyda sioe newydd ar BBC Radio Wales bob nos Wener