Gan blethu caneuon adnabyddus â chaneuon newydd sbon, bydd 'Epilog' gan Robat Arwyn a Mererid Hopwood yn cloi gweithgareddau llwyfan pafiliwn Eisteddfod Wrecsam 2025. Fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, rhyw un gair bach olaf o berfformiad yw 'Epilog' – un eiliad estynedig ar y trothwy hwnnw lle mae ffarwelio ag un Steddfod hefyd yn edrych ymlaen at y Steddfod nesaf
Mae 'Epilog' yw ceisio dal yr ennyd lle mae newid a pharhad yn cwrdd, y foment rhwng y ‘gest ti wythnos dda?’ a’r ‘wela’i di flwyddyn nesaf?’, tro trai o foment lle mae’r don yn dal ei hanadl cyn gollwng gafael. A dyma, mae’n siŵr, yw ‘traddodiad’ – y weithred sy’n symud o ddoe drwy heddiw i yfory ... gweithred o draddodi, o drosglwyddo, o gyflwyno ac ymddiried.
Bydd rhai o leisiau prif enillwyr cystadlaethau Eisteddfodau’r gorffennol yn ymuno â lleisiau un o gorau lleol yr ardal, Johns' Boys, i’n tywys ni drwy rythmau sy’n adleisio suo’r bossa nova, swyn alawon gwerin a chadernid yr emyn-dôn, a’r cwbl, gobeithio, yn ein hymlacio ni i gyd. O ganol y datod a’r pacio, bydd gwahoddiad inni agor drws ein cyfeillach led y pen. Yna, wrth i ni roi’r cyfan i gadw’n glyd, rhoi’r gair a’r nodau’n ôl i’r ddalen, rhoi’r llais yn ôl i’r llyfrau mud, rhoi’r gwobrau’n ôl mewn cwpwrdd a rhoi’r maes yn ôl i’r cae, os yw hi’n awr i’r caddug gau amdanom, bydd 'Epilog' yn ein hatgoffa ni ei bod hi hefyd yn awr lachar y sêr. A dyna lle mae’r darn yn gorffen, gydag awgrym cyfoethog Ceiriog mai golau arall yw tywyllwch.
Diwedd?
Dechrau. ... arall
Fory?
Heddiw ... arall
Tywyllwch?
Golau ... arall