VRI-4
Tŷ Gwerin

Ymarfer agored a chyngerdd arbennig gyda VRï, aelodau o gymuned ffidil Cymru, a chywaith Dawns Collective sy'n cyfuno dawns gyfoes gyda gwead cyfoethog cerddoriaeth ffidil Cymru

Dyma gynnig cipolwg prin ar yr ysbryd cydweithredol a’r egni cerddorol sy’n diffinio penwythnos Ffidil Fawr, prosiect sy'n dod â chwaraewyr llinynnol o bob cwr o Gymru ynghyd.

Ganwyd Ffidil Fawr yn ystod cyfnod y clo fel prosiect o undod i greu fideo i ddathlu ein traddodiad. Yn 2024 cynhaliodd VRï benwythnos ffidil Gymreig o dan yr un enw, gan nodi moment arwyddocaol yn hanes adfywiad cerddoriaeth linynnol draddodiadol Cymru.

Ym mis Medi eleni mae’r digwyddiad yn dychwelyd, gan addo cynulliad hyd yn oed yn fwy o ffidlwyr brwd. Bydd y cyfuniad yma o alaw a symudiad yn brofiad trawiadol, sy'n dathlu dyfnder a deinameg traddodiadau diwylliannol Cymru

Instagram Facebook