Sblash o Gwmpas
Maes B

Gwledd i’r synhwyrau a fydd yn swyno cynulleidfaoedd o bob oed gyda thân, clocsio, drymiau a cherddoriaeth fyw i ddathlu prydferthwch byd natur

Wedi’i goreograffu gan Meinir Siencyn mae’r perfformiad yn ein cysylltu â gwlad ein cyndeidiau drwy berfformiad.

Bydd trac sain lŵp byw gan yr aml-offerynnwr, Henry Horrell a’r drymiwr, Iolo Hughes yn sicr o danio'r gynulleidfa a'u balchder mewn treftadaeth Gymreig wrth atalnodi rhythmau clocsio’r dawnswyr