Maes D

Elan Evans sy'n sgwrsio gyda Neal Thompson, cyd-sylfaenydd FOCUS Wales, gŵyl ryngwladol aml-leoliad a gynhelir yn Wrecsam bob blwyddyn i roi sylw i dalent gerddorol newydd o Gymru a detholiad o'r artistiaid newydd gorau o bob cwr o'r byd

Eleni dathlodd yr ŵyl ei phen-blwydd yn 15 oed, a chroesawyd dros 22,000 o bobl i'r dref i fwynhau penwythnos llawn o ddigwyddiadau.

Does dim lle fel Wrecsam yn ystod FOCUS Wales, gyda’r ddinas yn troi'n bair diwylliannol sy'n gartref i dros 250 o artistiaid mewn mwy na 20 o leoliadau gwahanol ledled y ddinas.

Yn ogystal â'r gerddoriaeth, mae'r ŵyl hefyd yn cynnwys paneli diwydiant, digwyddiadau rhwydweithio, a dangosiadau ffilm