Cerddor-gyfansoddwr sy'n plethu cerddoriaeth sinematig, jazz a gwerin Gymreig, gan ddod â phersbectif newydd i'r gwreiddiau hynny drwy arddulliau cyfoes
Mae ei halbwm diweddar, 'gwyw', y rhoddwyd sylw iddo ar BBC Radio 3 ac yng nghylchgrawn 'Clash', yn archwilio'r arddulliau yma, gan gynnig profiad gwrando unigryw, sy'n cyfuno'r cyfarwydd â'r annisgwyl.
Ar gyfer y perfformiad yma, caiff Gwenno gwmni triawd llinynnol, i gynnig cyfuniad o gyfoeth emosiwn y llinynnau ynghyd ag elfennau sinematig a jazz ei gwaith hi. Mae'r perfformiad yn cynnwys traciau oddi ar 'gwyw', a mwy.
Bydd y perfformiad yn mynd â'r gynulleidfa i fan lle mae traddodiad a moderniaeth yn cyd-fyw, gan gynnig ennyd i fyfyrio ac i ddarganfod, drwy fiwsig sy'n pontio arddulliau a dylanwadau diwylliannol