Bydd y panel beirniaid yn dewis tri chystadleuydd ar draws y categorïau lleisiol 19 ac o dan 25 oed i ganu eto yn y rownd derfynol i gyflwyno:
-
- Yr unawd Rhan A yn y dosbarth
- Hunanddewisiad o unawd gan gyfansoddwr o Gymro ac eithrio dewisiadau Rhan B unawdau 19 ac o dan 25 oed
Dyfernir yr ysgoloriaethau canlynol ar gyfer cantorion yn y categorïau lleisiol 19 ac o dan 25 oed (nid o reidrwydd i enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts):
-
- (£1000) Ysgoloriaeth William Park-Jones i’r unawdydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau Gwobr Goffa Osborne Roberts
- (£220) Gwobr Cronfa goffa Violet Mary Lewis yn rhoddedig gan ei mab, Dr Cyril David Jones, Michigan, UDA, a’i merch Phyllis Marie Jones-Gaide, Florida, UDA, i’r soprano mwyaf disglair 19 ac o dan 25 oed
- (£160) Gwobr goffa David Lloyd | (£60) Cronfa coffa Jean Skidmore, Aberdyfi i'r tenor mwyaf disglair 19 ac o dan 25 oed.
Estynnir gwahoddiad i'r enillydd gan Sefydliad Cymru Gogledd America i berfformio yng ngŵyl NAWF (North America Wales Festival) ddechrau Medi 2026 yn Springfield, Massachusetts
Gwobr: Bydd yr enillydd yn derbyn yr ysgoloriaethau canlynol: (£2000) Ysgoloriaeth William Park-Jones | (£500) Ysgoloriaeth Côr Meibion Cymry Llundain a £300
Beirniaid: Camilla Roberts, Siôn Goronwy a Fflur Wyn
Cyfeilyddion: Glian Llwyd, Branwen B Evans, Jeffrey Howard a Rhiannon Pritchard