Pafiliwn

Unrhyw ddwy fonolog o ddrama/ddramâu neu ryddiaith addas. Caniateir 8 munud ar gyfer y cyflwyniad cyfan sy’n cynnwys paratoi a chlirio’r llwyfan. Rhaid i un o’r monologau fod allan o ddrama Gymraeg. Caniateir un darn gwreiddiol os dymunir ond rhaid i’r ddau ddarn fod yn wrthgyferbyniol.

Gwobrau:

  • Medal Goffa Richard Burton a £300 (Glyn a Carys Tudor Williams Caerdydd)
  • £200 (Er cof am fy hen fodryb, Hilda M Roberts, oedd yn adrodd ac yn cyhoeddi llên gwerin gogledd Cymru, gan Mark Roberts)
  • £100

Beirniaid: Ffion Dafis a Marc Lewis Jones