Ymunwch i ddathlu enillwyr cystadlaethau'r adran lenyddiaeth eleni
Ysgoloriaeth fentora Emyr Feddyg
er cof am Dr Emyr Wyn Jones
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth flynyddol hon i gynnig hyfforddiant i lenor neu fardd na chyhoeddwyd cyfrol o waith ganddynt eisoes. Gofynnir i’r cystadleuwyr uwchlwytho gwaith mewn unrhyw ffurf neu arddull – boed yn farddoniaeth neu’n rhyddiaith (neu’n gyfuniad o farddoniaeth a rhyddiaith) – heb i’r cyfan fod yn hwy na 3,000 o eiriau. Rhaid i bob cyfansoddiad fod yn gynnyrch gwreiddiol gan yr awdur a heb ei gyhoeddi.
Bydd yr enillydd yn cael prentisiaeth yng nghwmni mentor profiadol a ddewisir ar y cyd gan yr enillydd a’r Eisteddfod. Mae cyfanswm o £1,000 ar gael ar gyfer y mentora; yn ogystal â thâl i’r mentor, gellir cyfrannu tuag at gostau teithio ac unrhyw gostau eraill perthnasol i’r hyfforddiant o’r swm hwn. Ni all unrhyw un dderbyn yr ysgoloriaeth fwy nag unwaith
Gwobr: £200
Beirniad: Eurig Salisbury
Englyn unodl union
Testun: Diwydiant
caniatier cyflwyno hyd at 5 englyn fel rhan o'r un cais
Gwobr: Tlws coffa Dic yr Hendre i'w ddal am flwyddyn a £200
Beirniad: Tudur Hallam
Cerdd ysgafn ar unrhyw fesur
Testun: Damwain
Gwobr: £200 (Mairwen Elisabeth Jones, Er cof am Henri Hefin Jones gan ei deulu)
Beirniad: Llio Maddocks
Cerdd gaeth heb fod dros 30 o linellau
Testun: Pendroni
Gwobr: £200 (Gwobr Goffa Islwyn Jones)
Beirniad: Arwyn Groe
Tri thriban
Testun: Atyniadau
caniateir cyflwyno hyd at 5 triban fel rhan o'r un cais
Gwobr: £200 (Cael sawr Morgannwg yn Wrecsam, gan Cyril Golding)
Beirniad: Ceri Wyn Jones
Telyneg
Testun: Craith | Creithiau
Gwobr: £200 (Tesni Elen Peers, Er cof am Nain a Taid Wern, Miriam a Dennis.)
Beirniad: Mari George
Soned
Testun: Bwyd
Gwobr: £200
Beirniad: Iestyn Tyne
Limrig
Testun: Gêm
caniateir cyflwyno hyd at 5 limrig fel rhan o'r un cais
Gwobr: £200 (Er cof am ei rhieni, Eric Stephen a Megan Jones gan Elizabeth Stephen Colbourne)
Beirniad: Gruffudd Antur
Gwobr stori fer Tony Bianchi
hyd at 3,000 o eiriau
Testun: Gwreiddiau
Gwobr: Gwobr Tony Bianchi a £200 (Aled Lewis Evans)
Beirniad: Andrew Teilo
Araith Bwrw Bol | Rant
Gwobr: £200
Stori addas i blant rhwng 7 – 11 oed
Llunio stori hyd at 1,000 o eiriau. Ystyrir cyhoeddi’r gwaith buddugol mewn cylchgrawn plant cydnabyddedig yng Nghymru.
Gwobr: £200 (Shoned Mererid Davies, Wrecsam, cyn-ddisgybl Ysgol Bodhyfryd a Morgan Llwyd, Wrecsam)
Beirniad: Luned Aeron
Agoriad nofel
addas ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, hyd at 2,000 o eiriau
Gwobr: £200
Beirniad: Rebecca Roberts
Gwobr ysgrif J Elwyn Hughes
hyd at 1,500 o eiriau
Testun: Darlun | Darluniau
Gwobr: Tlws J Elwyn Hughes (Dilwen, Siôn a Manon, er cof am J Elwyn) a £200 (Teulu J. Elwyn Hughes, Tlws Ysgrif J Elwyn Hughes i'w ddal am flwyddyn yn rhoddedig gan y teulu)
Beirniad: Angharad Price
Dyddiadur
Cefnogwr clwb pêl-droed Wrecsam
Dyddiadur yn crynhoi tymor neu dymhorau hyd at 2,000 o eiriau
Gwobr: £200 (Cyfeillion y Stiwt, Rhos, Er cof am Aled Roberts- ein ffrind, cymydog ac aelod blaenllaw o gymuned y Stiwt yn y Rhos)
Beirniad: Geraint Lovgreen
Tlws yr ifanc o dan 25 oed
mewn ymgynghoriad â Chymdeithas Eisteddfodau Cymru
Darn o farddoniaeth neu ryddiaith ar unrhyw ffurf, hyd at 2,000 o eiriau. Bydd gofyn i’r beirniaid argymell hyd at 3 darn o waith haeddiannol (rhaid cynnwys yr enillydd), i’w gynnig i Gymdeithas Eisteddfodau Cymru ar gyfer y gystadleuaeth hon.
Dyfernir gwaith o Eisteddfodau lleol Cymru rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Ebrill 2025
Gwobr: Tlws yr Ifanc a £200 (Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, Disgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni Ysgol Morgan Llwyd)
Beirniaid: Nia Morais a Malachy Owain Edwards
Gwerthfawrogiad o waith Islwyn Ffowc Elis
hyd at 5,000 o eiriau
Gwobr: £200 (Teulu Pegi Llwyd Ellis (Pegi Afan), Er cof am Pegi Llwyd Ellis (Pegi Afan) a fu'n byw yn ardal Wrecsam am bron i 40 mlynedd, gan ei theulu)
Beirniad: T Robin Chapman
Cystadleuaeth y Wladfa
i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy’n dal i fyw yn yr Ariannin
Cyflwyniad ar ffurf ysgrif (i gynnwys delweddau os yn berthnasol) hyd at 2000 o eiriau neu recordiad llais a/neu llun hyd at 5 munud
Testun: Mynd a Dod
Gwobr: Gwobr Goffa Shân Emlyn gan ei merched Elin Edwards a Mari Emlyn a £200
Beirniad: Eirian Lewis
Cyflwyniad i fro
hyd at 2,000 o eiriau
Cyflwyniad i unrhyw fro i gynnwys gwybodaeth ar ffurf ysgrif, lluniau, a/neu gyfryngau o ddewis y cystadleuydd
Gwobr: £200 (Teulu Henlle, Whittington, Croesoswallt)
Beirniaid: Twm Morys a Twm Morys
Cerdd ar lafar (ar ffurf Spokenword)
Cyflwyno cerdd wreiddiol dim hwy na 5 munud ar unrhyw bwnc
I gystadlu, mae'n rhaid:
- Uwchlwytho’r gerdd ar ffurf fideo (e.e. MP4 / MOV) ynghyd â chopi o’r geiriau erbyn 15 Mehefin
- Y beirniad yn dewis y cyflwyniad gorau ar sail y ceisiadau ddaw i law
Gwobr: £200 (Byddai Dr Rosalind Eirew, a fu’n perfformio yn yr Eisteddfod pan yn ifanc, a oedd yn fam gariadus i Peter a Richard ac yn feddyg teulu gwych, ac a oedd yn mwynhau’r celfyddydau’n fawr, wedi dotio ar ei hwyrion,)
Beirniad: Rufus Mufasa