Y Lle Celf
Sgwrs gan yr artist a'r darlithydd Gwenllian Beynon am waith llai cyfarwydd yr artist o ffoadur o Wlad Pwyl, Josef Herman, a fu'n byw yn Ystradgynlais
Mae Gwenllian yn un o ymddiriedolwyr Sefydliad Celf Josef Herman a bydd yn cyflwyno gwaith o gasgliad Sefydliad Herman ac o ffynonellau eraill. Roedd Josef Herman yn byw yn Ystradgynlais rhwng 1944 a 1955 ac mae'n adnabyddus am ei ddarluniau o lowyr a phobl, yn enwedig o Gwm Tawe, ond yn y sgwrs hon byddwn yn edrych ar fathau eraill o waith a wnaeth, gan gynnwys adar, blodau a dyluniadau carpedi.