Paned o Gê
Dewch i lansiad casgliad o fonologau gan wyth awdur LHDTC+ gyda thrafodaeth ar ddatblygiad y zine a darlleniad o rai darnau ohoni. Comisiynwyd gan yr Eisteddfod a chyhoeddwyd gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru
Am y ddwy flynedd diwethaf, mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi comisiynu monologau newydd gan wyth awdur LHDTC+ o Gymru. Gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru, mae'r monologau yma wedi cael eu casglu mewn zine newydd; golygwyd y gyfrol gan Megan Angharad Hunter a dyluniwyd gan Liz Akerele.