Y Babell Lên
Heb ymuno â Chymdeithas Llefaru Cymru eto? Ddim yn siŵr pwy ydy nhw? Dewch i'r Babell Lên i'w gweld: Cedron Sion, Anni Llŷn, Enid Parry, Teleri Mair a Cefin Roberts yn edrych ar 'y busnes llefaru 'ma' drwy sbectol fymryn yn wahanol i'r arfer
Gyda Chymdeithas Llefaru Cymru bellach wedi cael gwynt dan ei hadain, ewch draw i weld i ba gyfeiriad maen nhw'n hedfan erbyn hyn. Ai tair hwyaden degan yn sownd i wal y parlwr fyddan nhw, neu a oes ganddyn nhw fwriad i nythu, magu cywion a mentro i'r awyr?