1000043951
Tŷ Gwerin

Perfformiad eclectig ac egnïol gan y band gwerin-indi-pop o Fachynlleth, sy'n cynnwys y ddau frawd barfog o Fetws-y-coed, Liam a Siôn Rickard, Rolando Bertrand Ruiz o Nicaragua, a Badger Brown yr holl ffordd o Sir Benfro

Fe enillon nhw Frwydr y Bandiau Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol 2023, a chawsant fuddugoliaeth yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd y llynedd. Cyrhaeddon nhw rownd derfynol Cân i Gymru gyda'r gân, 'Y Wennol'. Yn ôl Gwilym Bowen Rhys, mae'u cerddoriaeth yn “...wledd i’r synhwyrau i gyd ... gwreiddioldeb yn tasgu o bob bys ac o bob blewyn”