Mari Ha!
Theatr Stryd a Dawns

Dewch i ddathlu cylch y flwyddyn gyda pherfformiad awyr agored o ddawns gyfoes egnïol sy'n cyfuno'r Cadi Ha a'r Fari Lwyd a hen ddefodau ac arferion gwerin eraill Cymru. Comisiwn ar y cyd gan Fenter Bro Morgannwg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Gŵyl y Dyn Gwyrdd gyda chefnogaeth Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Mae’r ddawns gyfoes egnïol hon yn cyd-blethu Calan Mai a Chalan Hen, hirddydd haf a’r gyhydnos, y Cadi Ha a’r Fari Lwyd, mewn perfformiad bywiog yn yr awyr agored.

Mae Mari Ha! yn waith cyffrous sy’n cyfuno dawns, dylunio a cherddoriaeth mewn ffordd sy’n torri tir newydd. Mae’n dathlu’r pŵer sydd gan fyd natur i ddod â phobol ynghyd i greu cymuned a diwylliant.

Comisiwn ar y cyd gan Fenter Bro Morgannwg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yw 'Mari Ha!' gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Cysyniad a choreograffi: Osian Meilir

Perfformwyr: Alex Marshall Parsons, Cêt Haf, Elan Elidyr ac Osian Meilir

Dylunio a gwisgoedd: Becky Davies (cysyniad a dyluniad), Amy Barrett (gwneuthurwraig), Lucie Powell a Nikita Verboon (cynorthwywyr)

Cerddoriaeth wreiddiol: Alex Comana

Traciau cerddoriaeth eraill: Vrï ac Alaw