Mellt-BW
Llwyfan y Maes

Gyda llais sydd bron yn llafarganu, gitâr sgrechlyd a drymiau beiddgar, mae Mellt yn cynhyrfu'r dorf a chreu egni lle bynnag maen nhw

Maen nhw wedi'u dylanwadu gan 'The Clash', 'The Band' a 'The Replacements' gyda’u riffiau gitâr bachog, synau slacyr roc ôl pync, a'u geiriau'n goron ar y cyfan.

Mae Mellt yn bedwarawd o Aberystwyth yn wreiddiol, sydd bellach wedi’u lleoli yng Nghaerdydd.

Enillodd eu halbwm cyntaf ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’, Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn 2018, a chyrhaeddodd yr albwm restr fel y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yr un flwyddyn. Cafodd eu hail albwm ‘Dim Dwywaith’ ei ryddhau ym mis Hydref 2023 ar label Clwb Music gyda sawl adolygiad anhygoel gan 'Clash', 'NME' ac adolygiad 8/10 gan gylchgrawn 'Uncut'.

Cyrhaeddodd yr albwm restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg ac Albwm Gymraeg y Flwyddyn.

Ar ôl chwarae nifer o sioeau byw, mae’r pedwarawd deinameg yn llwyddo i hoelio sylw cynulleidfaoedd gan wneud eu marc yn glir ar dirlun eang cerddoriaeth Cymru

Instagram Facebook Youtube