Perfformiad gan un o arloeswyr y sin bît-bocsio yn y DU, sydd â'i wreiddiau'n ddwfn yn nhirwedd Cymru
Mae ei berfformiadau ysbrydoledig a’i gyfansoddiadau lleisiol wedi dod â chydnabyddiaeth ryngwladol i’w waith fel bît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd.
Mae doniau dwyieithog Mr Phormula yn unigryw ac mae hyn, ynghyd â’i rhythmau slic, llinellau bas cymhellol a’i ddawn leisiol, wedi datblygu cefnogwyr ymroddedig ym mhob rhan o Gymru, y DU ac UDA. Ef yw pencampwr Lwpio Cymru ar hyn o bryd, ac yn 2013, bu’n is-bencampwr Lwpio’r DU.
Mae wedi gweithio gyda rhai o fawrion y byd hip hop gan gynnwys The Pharcyde, Jungle Brothers, Boy better Know, Plan B, Professor Green a’r chwedlonol Krs-One, ac mae hyn oll yn dangos ansawdd a chwmpas doniau cynhyrchu Mr Phormula sy’n ategu natur farddonol ei ddwyieithrwydd