Mynadd (Gwanwyn 2025)
Caffi Maes B

Band pum aelod o ardal y Bala sy'n perfformio ers diwedd 2022 a newydd ryddhau'u halbwm cyntaf eleni

Caiff llais pwerus Elain Rhys ei blethu â gitâr Math Thomas a’i chwaer Nel ar y bas, gyda Gruffudd ab Owain ar y piano a Cadog Edwards ar y drymiau. Maen nhw’n ymfalchïo yng nghyfoeth cerddorol eu bro, gan ddod ag amrywiaeth o elfennau a dylanwadau ynghyd i dorri eu cwys eu hunain

Instagram