Band Tŷ Potas gyda Pedair, Elidir Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Linda Griffiths, Rhys Gwynfor, Meibion Carnguwch, Cleif Harpwood, Hefin Elis a mwy.
Dewi Pws oedd prif leisydd y grŵp arloesol Y Tebot Piws. Aeth ati wedyn, gyda Hefin Elis, i sefydlu'r supergroup Cymraeg cyntaf – y band roc, Edward H Dafis. Fe berfformiodd hefyd gyda'r band pync-gwerin Radwm, ac ymddangos ar lwyfan gyda'r band gwerin Ar Log. Ymhlith ei gyfansoddiadau mae ‘Lleucu Llwyd’ – un o ganeuon mwyaf poblogaidd Y Tebot Piws – a 'Nwy yn y Nen', cân fuddugol Cân i Gymru 1971.
Ymddangosodd mewn amryw o gynyrchiadau teledu, gan gynnwys yr operâu sebon 'Pobol y Cwm' a 'Rownd a Rownd', ac yn y ffilm deledu eiconig, ‘Grand Slam’.
Daeth y syniad am y cyngerdd gan gyfeillion Dewi yn fuan wedi ei farwolaeth, yn ôl ei wraig, Rhiannon. "Cleif (Harpwood) gynigiodd y syniad yn gyntaf, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn syniad da, ac fe aeth ymlaen i drefnu pethau. Mei Gwynedd sy'n gyfrifol am ddewis y caneuon a phwy sy'n eu canu, a chawn weld sut mae'n mynd ar y noson," meddai.
Wrth edrych ymlaen at y noson yn Wrecsam, dywedodd y gantores a'r cyflwynydd, Meinir Gwilym, "Wnes i ddod i adnabod Dewi Pws yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Roedd yn dod i gigs Pedair yn aml, ac wrth gwrs, drwy fod yn Dewi, roedd yn rhaid iddo dynnu coes a dweud ambell i jôc, ond roedd yn dangos brwdfrydedd mawr tuag at yr hyn rydym yn ei wneud, ac roedd hynny yn ein llenwi â hyder. Mae'n fraint anhygoel ac emosiynol hefyd i gael gwahoddiad i gymryd rhan yn y cyngerdd i dalu teyrnged iddo."
Cytunodd Rhiannon y byddai'n noson emosiynol. "Rwy’n edrych ymlaen yn fawr. Mae caneuon Dewi yn cael eu chwarae ar y radio yn aml, a dwi’n cael teimladau cynnes wrth eu clywed, a gwybod nad ydyw wedi cael ei anghofio.
"Fe fydda i’n teithio o Ben Llŷn i Wrecsam yn ‘Lleucu Llwyd’, y camper fan brynwyd y llynedd. Roedd gennym faniau ers blynyddoedd, ond dim ond un trip gafodd Dewi yn hon. Aethom ar y fferi i Santander ac yna o amgylch gogledd Sbaen cyn belled â Chatalonia. Penderfynais ei chadw," meddai.