Sinemaes
Mae'r Opra Gymraeg 'Tanau'r Lloer' yn cael ei 'premiere' yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin ym mis Awst, cyn ei ryddhau i'r sinema yn ddiweddarach yn y flwyddyn a'i ddarlledu ar y teledu yn 2026.
Mae Menna Baines yn cadeirio trafodaeth gyda'r cyfansoddwr Gareth Glyn, y cyfarwyddwr Chris Forster, y cyd-libretydd Patrick Young a'r cantorion Elin Pritchard a Huw Ynyr ar sut y daeth ysbrydoliaeth 'Un Nos Ola Leuad' gan Caradog Prichard â'r ffilm opera unigryw hon i fodolaeth.