Cymdeithasau
Sut mae symud amgueddfa gyfan? Sut mae sefydlu amgueddfa newydd sbon? Ymunwch â phanel o Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wrecsam i ddysgu mwy am y cynlluniau cyffrous sydd ar y gweill yn y ddau safle
Mae Amgueddfa Wrecsam ar fin ail-agor gyda’r amgueddfa bêl-droed genedlaethol newydd bellach yn rhan o’r safle, tra mae’r Amgueddfa Lechi ar ganol project ailddatblygu uchelgeisiol a fydd yn rhoi bywyd newydd i'r amgueddfa ac yn gwarchod adeiladau hanesyddol a chasgliadau pwysig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y panelwyr yn trafod rhai o’r heriau a’r uchafbwyntiau o ymgymryd â'r gwaith yma