Cymdeithasau

Cyflwyniad sy'n bwrw golwg ar ddatblygiad yr ysgol Gymreig yn yr ugeinfed ganrif

Mae rhaglen ddiweddar ‘Ysgolion yr 21ain Ganrif’ Llywodraeth Cymru wedi cynrychioli’r buddsoddiad mwyaf yn yr ystâd addysgiadol ers y 1960au drwy adeiladu ac adnewyddu cannoedd o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y wlad.

Yn y broses, mae nifer fawr o ysgolion wedi cau a’u dymchwel – yn enwedig rheini a adeiladwyd yn yr ugeinfed ganrif – gan weddnewid y tirlun addysg yn y wlad.

Mae’r cyfnod yma felly, wedi bod yn gyfle i geisio deall mwy am natur adeiladol ein hysgolion yn yr ugeinfed ganrif o ran eu pensaernïaeth a’u mathau gwahanol, o ysgolion cyngor yr 1900au i ysgolion cyfun yn yr 1970au.

Gan dynnu ar ymchwil diweddar a rhaglen arolygu Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru dros y pedair blynedd diwethaf, y gobaith yw rhoi trosolwg gweledol o ysgolion Cymru a gwahodd mwy o sylw i adeiladau’r ugeinfed ganrif sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu fel adeiladau ‘hanesyddol’