Sinemaes
Ffilm yn archwilio’r elusen, Pluen Wen, sy'n cefnogi teuluoedd sydd wedi colli babi yn ystod beichiogrwydd cyn 24 wythnos, a hanes dwy fam mewn profedigaeth ddaeth at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth
Bydd sgwrs gyda'r cyfranwyr i ddilyn. Ar hyn o bryd yng Nghymru, dim ond babanod a gollwyd yn ystod beichiogrwydd ar ôl 24 wythnos y gellir eu hadnabod gyda thystysgrif.
Yn Lloegr, newidiodd hyn ym mis Chwefror 2024. Mae’r elusen yn ceisio gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatrys hyn