Cymdeithasau

Sgwrs gyda’r artist Bedwyr Williams, y gomedïwraig Melanie Owen, yr awdur Gwenno Gwilym a’r awdur a’r ymarferydd theatr Elgan Rhys, am yr hwyl a’r heriau o greu ar gyfer cynulleidfa gyfoes, gyda gohebydd celfyddydau Golwg, Non Tudur, yn holi

Er gwaethaf y toriadau i lwfans y cyrff cenedlaethol, mae ambell i artist, awdur a pherfformiwr yn cael cyfleoedd euraid o ran eu gyrfa. Bydd pedwar enw nodedig o fyd y celfyddydau yn sgwrsio am eu profiadau, ac am yr hwyl a’r heriau o greu ar gyfer cynulleidfa gyfoes

Mae’r artist Bedwyr Williams yn un o gyn-enillwyr y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yr Eisteddfod ac yn un o feirniaid y Lle Celf eleni. Ers mis Mawrth mae'n gweithio ar broject gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Melanie Owen yn gomedïwraig ac yn gyflwynydd brysur, ac roedd ei llyfr cyntaf 'Oedolyn(ish!)' ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025.

Ers cyhoeddi ei nofel gyntaf 'V + Fo', mae Gwenno Gwilym wedi ei dewis i fod yn rhan o Garfan Cynrychioli Cymru 2025-26 Llenyddiaeth Cymru, ac wedi bod ar gwrs 'Tuag Opera' yn dysgu sut i sgrifennu libreto.

Awdur ac ymarferydd theatr yw Elgan Rhys, fu’n gyfrifol am 'Y Pump', cyfres o lyfrau arloesol am brofiadau pobl ifanc, ac mae'n bennaeth ymgysylltu Cwmni’r Frân Wen.