Tŷ Gwerin
Caneuon gwreiddiol ac alawon traddodiadol yng nghwmni'r cerddor o Ffarmers Sir Gaerfyrddin a wnaeth ddal sylw'r hyfforddwyr ar raglen 'Y Llais'
Mae Rhiannon yn cael ei hysbrydoli gan fywyd teulu adre ar y fferm. Cafodd glod arbennig yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin ddwywaith yn olynol, a llwyddodd i ddal sylw tri o hyfforddwyr rhaglen 'Y Llais' yn gynharach eleni. Dywedodd Bronwen Lewis fod "... ei pherfformiadau yn eich tynnu chi mewn fel petai dim ond chi a hi sydd"