Cyfle i anrhydeddu enillwyr cystadlaethau cyfansoddi'r adran Theatr, a sgwrs gydag enillydd Medal y Dramodydd, petai un, yng nghwmni rhai o'r beirniaid dan gadeiryddiaeth Lisa Lewis
Gwobr goffa Gethin Thomas
Cyfansoddi sgript gomedi
Cyfansoddi sgript gomedi i gynnwys 1 neu hyd at 6 chymeriad heb fod yn hwy na 15 munud.
Bydd y sgript fuddugol, neu unrhyw sgript sy’n dangos addewid yn cael ei hanfon ymlaen i’r diwydiannau creadigol yn cynnwys S4C a BBC Radio Cymru.
Gwobr: £200 (TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru), TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru)
Beirniad: Kristoffer Hughes
Trosi drama i’r Gymraeg
Trosi un o'r dramâu canlynol o'r iaith wreiddiol i'r Gymraeg
'Lungs’ gan Duncan MacMillan. [Oberon Modern Books. ISBN 978-184943145]
neu
‘Lemons, Lemons, Lemons' gan Sam Steiner [Nick Hern Books. ISBN 978-1848425378]
Gwobr: £200
Beirniad: Branwen Davies
Cyfansoddi monolog
Cyfansoddi monolog na chymer fwy na 5 munud i'w pherfformio.
Gwobr: £200
Beirniad: Hanna Jarman
Adolygiad
o gynhyrchiad Cymraeg neu ddigwyddiad celfyddydol yng Nghymru
hyd at 1,000 o eiriau
Gwobr: £200
Beirniad: Betsan Powys