Pafiliwn

English translation is available

Rhybudd – Rhaid i bawb sydd am weld y seremoni fod yn eu seddau erbyn 15:45

Nid agorir y drysau wedyn hyd nes bod gorymdaith yr Orsedd wedi gadael y Pafiliwn tua 17:00

Ffanffer a gorymdaith yr Archdderwydd a’i gosgordd

Canu’r Corn Gwlad: Dewi Corn a Gwyn Anwyl

Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa sefyll pan genir y Corn Gwlad i’w cyfeiriad, ac aros ar eu traed tra offrymir Gweddi’r Orsedd

Gweddi’r Orsedd:

Gair o groeso gan yr Archdderwydd, a chyflwyno beirniaid Cystadleuaeth y Gadair: Peredur Lynch, Menna Elfyn a Llŷr Gwyn Lewis

Beirniadaeth: Peredur Lynch

Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau: Dinas

Gwobr: Cadair yr Eisteddfod (Undeb Amaethwyr Cymru, Gogledd Ddwyrain Cymru) a £750

Geilw’r Archdderwydd ar yr osgordd i gyrchu’r bardd buddugol, a gofynnir iddynt sefyll ar alwad y Corn Gwlad

Cyhoeddir enw’r bardd buddugol ac fe’i gwahoddir i eistedd yn hedd yr Eisteddfod

Cadeirio’r bardd yn ôl braint a defod yr Orsedd

Cerdd y Cadeirio: Nest Forgan

Cân y Cadeirio: Robert Elis

Cyfarch y Bardd: Y Prifardd Carwyn o’r Nant

Cyflwynir dawns er anrhydedd i’r bardd buddugol

Cyflwynydd y Corn Hirlas: Rachel Thomas

Macwyaid y Llys: Gruffydd a Steffan Thomas

Cyflwynydd y Flodeuged a Chynnyrch y Meysydd: Elin Tesni Bartlett

Llawforynion y Llys: Gwenllian Bostock ac Eiri-Haf Jones

Plant y Ddawns: Awen Mai Llwyd Davies, Carys Tomlinson, Cati Siriol, Charlotte James-Evans, Elan Davies, Elen Aur, Ffion Greenwood, Grug Gwent, Hana Slaughter, Jasmine Prince, Lily Jones, Lleuwen Catrin Baglin, Macey Turner, Marged Aur, Maysi Jordan, Nansi Williams, Paige Purslow, Ria Thomas

Hyfforddwyd y dawnswyr gan Angharad Harrop a Meinir Siencyn Ymgynghorydd: Eirlys Britton

Hen Wlad fy Nhadau

Arweinir y bardd buddugol allan gan yr Archdderwydd, â’r Orsedd yn eu hebrwng

Gofynnir yn garedig i’r gynulleidfa aros yn eu seddau nes i’r orymdaith adael y Pafiliwn

Telynores y Seremoni: Telynores Waengoleugoed

Organydd: Eosfab


Awdl neu gasgliad o gerddi

Cystadleuaeth Y Gadair

Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 llinell.
Testun: Dinas

Gwobr: Cadair yr Eisteddfod yn rhoddedig gan Undeb Amaethwyr Cymru a £750 (Coleg Cambria)

Beirniaid: Peredur Lynch, Menna Elfyn a Llŷr Gwyn Lewis