Rhybudd – Rhaid i bawb sydd am weld y seremoni fod yn eu seddau erbyn 15:45
Nid agorir y drysau wedyn hyd nes bod gorymdaith yr Orsedd wedi gadael y Pafiliwn tua 17:00
Ffanffer a gorymdaith yr Archdderwydd a’i gosgordd
Seremoni cyflwyno cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd a Gorsedd y Wladfa i’r Archdderwydd, a’u croesawu i’r Eisteddfod
O Orsedd Cernyw: Bardd Mawr Cernyw, Gwythvosen; Dirprwy Fardd Mawr, Myrgh an Tir
O Orsedd Llydaw: Pig An Eien; Balafenn an Tan
O Orsedd y Wladfa: Marli Maes Rhyddid; Ivonne Maes Llaned
O Iwerddon (Oireachtas): Éamon ō Cuív; Aíne Uī Cruív
O’r Alban (Mod): Kristine Kennedy
Gwahoddir cynrychiolydd y Mod i annerch y gynulleidfa
Seremoni Coroni’r Bardd
Canu’r Corn Gwlad: Dewi Corn a Gwyn Anwyl
Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa sefyll pan genir y Corn Gwlad i’w cyfeiriad, ac aros ar eu traed tra offrymir Gweddi’r Orsedd
Gweddi’r Orsedd
Gair o groeso gan yr Archdderwydd, a chyflwyno beirniaid cystadleuaeth y Goron: Ifor ap Glyn, Siôn Aled, Gwyneth Lewis
Beirniadaeth: Ifor ap Glyn
Pryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau: Adfeilion
Gwobr: Coron yr Eisteddfod (Elin Haf Davies) a £750 (Prydwen Elfed-Owens er cof am ei rhieni a blynyddoedd hapus ei phlentyndod ym Mwlchgwyn ac yn Ysgol Gwynfryn)
Geilw’r Archdderwydd ar yr osgordd i gyrchu’r bardd buddugol, a gofynnir iddynt sefyll ar alwad y Corn Gwlad
Cyhoeddir enw’r bardd buddugol ac fe’i gwahoddir i eistedd yn hedd yr Eisteddfod
Coroni’r Bardd yn ôl braint a defod yr Orsedd
Cywydd y Coroni: Bethan Wyn
Cyfarch y Bardd: Y Prifardd Gwynfor Dafydd
Cyflwynir dawns er anrhydedd i’r bardd buddugol
Cyflwynydd y Corn Hirlas: Rachel Thomas
Macwyaid y Llys: Gruffydd a Steffan Thomas
Cyflwynydd y Flodeuged a Chynnyrch y Meysydd: Elin Tesni Bartlett
Llawforynion y Llys: Gwenllian Bostock ac Eiri-Haf Jones
Plant y Ddawns: Awen Mai Llwyd Davies, Carys Tomlinson, Cati Siriol, Charlotte James-Evans, Elan Davies, Elen Aur, Ffion Greenwood, Grug Gwent, Hana Slaughter, Jasmine Prince, Lily Jones, Lleuwen Catrin Baglin, Macey Turner, Marged Aur, Maysi Jordan, Nansi Williams, Paige Purslow, Ria Thomas
Hyfforddwyd y dawnswyr gan Angharad Harrop, Meinir Siencyn a Cari Sioux
Ymgynghorydd: Eirlys Britton
Hen Wlad fy Nhadau
Arweinir y bardd buddugol allan gan yr Archdderwydd, â’r Orsedd yn eu hebrwng
Gofynnir yn garedig i’r gynulleidfa aros yn eu seddau nes i’r orymdaith adael y Pafiliwn
Telynores y Seremoni: Telynores Waengoleugoed
Organydd: Eosfab
Pryddest neu gasgliad o gerddi
Cystadleuaeth Y Goron
Pryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 llinell.
Testun: Adfeilion
Gwobr: Coron yr Eisteddfod yn rhoddedig gan Elin Haf Davies a £750 (Prydwen Elfed-Owens er cof am ei rhieni a blynyddoedd hapus ei phlentyndod ym Mwlchgwyn ac yn ysgol Gwynfryn)
Beirniaid: Ifor ap Glyn, Gwyneth Lewis a Siôn Aled