Gwyddoniaeth a Thechnoleg

English translation is available

Cyflwyniad y Fedal Wyddoniaeth ac anrhydeddu enillwyr cystadlaethau gwyddoniaeth a thechnoleg yr Eisteddfod.

Rhoddir y fedal eleni er cof am JDR a Gwyneth Thomas, gan Gaenor, Lynne a Bethan a’u teuluoedd, gan gofio’n arbennig am gyfraniad JDR Thomas i faes synwyryddion-detholiadol


Erthygl Gymraeg

i unigolyn neu grŵp

Cyflwyno erthygl sydd yn gysylltiedig â meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth (STEMM) i gynulleidfa eang, heb fod yn hwy na 1,000 o eiriau. Croesewir y defnydd o dablau, diagramau a lluniau amrywiol. Sylwer y dylid cydnabod gwaith awduron eraill lle bo’n briodol. Ystyrir cyhoeddi’r erthygl fuddugol mewn cydweithrediad â’r cyfnodolyn Gwerddon

Gwobr: £200

Beirniad: Haydn E. Edwards


Erthygl ar unrhyw agwedd o fyd natur

yn addas ar gyfer ei chyhoeddi yn y Naturiaethwr

Anogir y defnydd o dablau, diagramau a lluniau amrywiol. Sylwer y dylid cydnabod gwaith awduron eraill lle bo’n briodol. Ystyrir cyhoeddi’r gwaith sy’n cael ei gymeradwyo gan y beirniad yn 'Y Naturiaethwr'. Am ganllawiau pellach, ewch i wefan cymdeithasedwardllwyd.cymru/canllawiau.

Gwobr: £200 (Er cof am wir wyddonydd, Norman Colbourne, Rhosllannerchrugog, gan Elizabeth Stephen Colbourne)

Beirniad: Duncan Brown


Creu poster

Cyflwyno gwaith gorffenedig gwreiddiol

Cyflwyno poster digidol o waith gwreiddiol gorffenedig ar unrhyw bwnc yn y maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianeg, Mathemateg neu Feddygaeth (STEMM) (anogir cyflwyno fel sleid PwyntPwer tirweddol). Bydd y beirniaid yn dewis y tri chyflwyniad mwyaf addawol i'w harddangos yn y Pentref Gwyddoniaeth cyn cyhoeddi enw awdur y gwaith buddugol. Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru am ganllawiau pellach

Gwobr: £200 (Er cof am Eryl a Mair Jones, Rhosllannerchrugog, gan Geraint a Marian Jones)

Beirniad: Gwenllian M Williams


Dyfeisio ac arloesi

Gall fod yn syniad neu ddyfais hollol newydd neu yn ateb i broblem bresennol mewn unrhyw faes. Gofynnir am geisiadau heb fod yn hwy na 1,000 o eiriau sy’n amlinellu’r syniad. Croesewir y defnydd o dablau, diagramau a lluniau amrywiol. Gall fod yn waith sydd wedi ei gyflawni yn barod neu'n gysyniad newydd.

Rhennir y wobr yn ôl dymuniad y beirniad gyda lleiafswm o £500 i'r enillydd

Gwobr: £1000 (Beryl Williams MBE)