Rhybudd – Rhaid i bawb sydd am weld y seremoni fod yn eu seddau erbyn 15:45
Nid agorir y drysau wedyn hyd nes bod gorymdaith yr Orsedd wedi gadael y Pafiliwn tua 17:00
Ffanffer a gorymdaith yr Archdderwydd a’i gosgordd
Canu’r Corn Gwlad: Dewi Corn a Gwyn Anwyl
Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa sefyll pan genir y Corn Gwlad i’w cyfeiriad, ac aros ar eu traed tra offrymir Gweddi’r Orsedd
Gweddi’r Orsedd: Manon Ogwen
Gair o groeso gan yr Archdderwydd, a chyflwyno beirniaid cystadleuaeth y Priflenor Rhyddiaith: Aled Lewis Evans, Bethan Mair ac Elin Llwyd Morgan
Beirniadaeth: Aled Lewis Evans
Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau: Ffin | Ffiniau
Gwobr: Y Fedal Ryddiaith (Ann Tegwen Hughes) a £750 (Prifysgol Bangor)
Geilw’r Archdderwydd ar yr osgordd i gyrchu’r llenor buddugol, a gofynnir iddynt sefyll ar alwad y Corn Gwlad
Cyhoeddir enw’r llenor buddugol ac fe’i gwahoddir i eistedd yn hedd yr Eisteddfod
Arwisgo’r Priflenor yn ôl braint a defod yr Orsedd
Cywydd Cyfarch y Priflenor: Martha Gwenllian
Cyfarch y Priflenor: Eurgain Haf
Cyflwynir dawns er anrhydedd i’r Priflenor gan Glocswyr Conwy
Hyfforddwyd y dawnswyr gan Hannah Elin Blackford
Cyflwynydd y Corn Hirlas: Rachel Thomas
Macwyaid y Llys: Ioan Massey a Steffan Thomas
Cyflwynydd y Flodeuged a Chynnyrch y Meysydd: Elin Tesni Bartlett
Llawforynion y Llys: Gwenllian Bostock ac Eiri-Haf Jones
Hen Wlad fy Nhadau
Arweinir y Priflenor allan gan yr Archdderwydd, â’r Orsedd yn eu hebrwng
Gofynnir yn garedig i’r gynulleidfa aros yn eu seddau nes i’r orymdaith adael y Pafiliwn
Telynores y Seremoni: Telynore Waengoleugoed
Organydd: Eosfab
Y Fedal Ryddiaith
Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau
Testun: Ffin | Ffiniau
Gwobr: Y Fedal Ryddiaith (yn rhoddedig gan Ann Tegwen Hughes) a £750 (Prifysgol Bangor)
Beirniaid: Aled Lewis Evans, Bethan Mair, Elin Llwyd Morgan a Steffan Prys Roberts