Sinemaes
Cyflwyniad a thrafodaeth am raglen ddiweddaraf Telesgop am sefydliad CERN lle mae gwyddonwyr o bob rhan o'r byd, gan gynnwys Cymru, yn cydweithio er mwyn darganfod sut y dechreuodd y bydysawd
Cychwynnodd y cyfan 70 mlynedd yn ôl, yn dilyn diwedd yr ail ryfel byd pan ollyngwyd bomiau atomig uwchben Hiroshima a Nagasaki.
Roedd gwyddonwyr gronynnau eisiau cyflawni rhywbeth newydd, y tro hwn yn enw heddwch.
Bydd y cynhyrchydd, Elin Rhys yn disgrifio agweddau o'r gyfres, yr heriau o ffilmio, a phwysigrwydd rhaglenni gwyddonol yn y Gymraeg ar S4C, ac ar BBC Radio Cymru