Oes gen ti boen yn dy dreigladau? Gorbryder ynglŷn â’r gorberffaith? Neu wyt ti'n teimlo'n sâl bod ti ddim yn defnyddio dy Gymraeg yn ddigon aml? Tyrd draw i Syrjeri'r Doctor Cymraeg ym Maes D ac fe gei di bresgripsiwn i dy helpu i wella dy Gymraeg!
Bydd y syrjeri mewn stondin steil meddygol, gyda chôt wen, stethosgop a chwpwrdd meddyginiaeth yn cynnwys dôs o dafodiaith a gramadeg – gyda'r Doctor Cymraeg ar gael i wrando ar dy symptomau ieithyddol. Fe gei di bresgripsiwn pwrpasol i dy helpu i wella dy Gymraeg.
Beth gei di yn dy bresgripsiwn?
• Nodiadau gramadegol i egluro’r pethau sy’n dy ddrysu
• Heriau Cymraeg i roi hwb i dy hyder a dy ddefnydd
• Cwestiau diwylliannol, e.e. "Cer i wrando ar fand Cymraeg byw", neu "Hola rywun newydd am eu hoff air Cymraeg"
• Gemau a phosau i gadw ti ar flaen y gad.
Cofia alw draw - 'does dim angen apwyntiad!