Gan ddawnsio ar y ffin rhwng llawenydd a melancoli, mae Sywel Nyw yn dychwelyd eleni gyda deunydd newydd a mwy o guriadau dawns ewfforig
Sywel Nyw yw’r cyfansoddwr, cynhyrchydd, a DJ, Lewys Wyn. Enillodd wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn (2022) gyda’i LP cyntaf clodwiw, ‘Deuddeg’ — prosiect ar y cyd a welodd ddeuddeg artist gwahanol yn ymddangos ar ddeuddeg trac gwahanol.
Mae 'Hapusrwydd yw Bywyd', albwm newydd Sywel Nyw, yn parhau i ddilyn trywydd diweddar yr artist, gan neidio’n ddyfnach i fyd cerddoriaeth ddawns electronig. Fel y dywed y Parchedig Guto Llewelyn yn y sampl ar ddechrau’r albwm: “Hapusrwydd yw bywyd – gall pob munud fod yn dragwyddoldeb o hapusrwydd.” Dyma albwm dawns gobeithiol, positif, gyda chariad yn gweu drwyddo o’r dechrau i’r diwedd.
Mae 2025 yn nodi cyfeiriad newydd i’r cynhyrchydd, wrth iddo ffafrio curiadau caled, samplau ac alawon anthemig dros ei hen riffs gitâr