Mae’r gantores Lleuwen Steffan yn ôl gyda mwy o emynau a chaneuon hollol newydd gyda’i band llawn o flaen cefnlen weledol gan y gwneuthurwr ffilm, Aled Victor
Ar ôl llwyddiant taith Tafod Arian - 'Emynau Coll y Werin' y llynedd, a lenwodd bron i hanner cant o gapeli i’r ymylon, mae’r gantores Lleuwen Steffan yn dychwelyd gyda datblygiad diweddaraf Tafod Arian, wrth iddi berfformio mwy o emynau a chaneuon hollol newydd gyda’i band llawn o flaen cefnlen weledol gan y gwneuthurwr ffilm, Aled Victor.
Dechreuodd Tafod Arian pan ddarganfyddodd Lleuwen emynau gwerin, coll, yn archif sain Amgueddfa Sain Ffagan. Roedd yr emynau hyn - a gafodd eu hanwybyddu gan lyfrau swyddogol - yn ganeuon y werin, yn cael eu traddodi a’u dysgu ar lafar a’u hanghofio dros amser. Trwy Tafod Arian, rydym yn talu teyrnged i leisiau'r gorffennol, gan drwytho eu melodïau a'u geiriau oesol gyda threfniannau cyfoes a dehongliadau o'r galon. Mae'r cynhyrchiad hwn yn rhoi bywyd newydd i recordiadau archif, gan sicrhau bod yr emynau llafar gwlad a gafodd eu hanwylo gan y genedl yn hawlio eu lle ar lwyfannau Cymru heddiw.