Caffi Maes B
Bydd y grŵp o ardal Llansannan yn chwarae detholiad o ganeuon gwreiddiol o'u halbwm cyntaf 'Sefwch Fyny', gan gynnwys traciau poblogaidd fel 'Rhedeg Fyny’r Mynydd' a 'Ras y Llygod'
Pedwar ffrind yw'r aelodau, Eban Elwy, Ianto Elwy, Tomos Smith a Hari Roberts. Ers haf 2022 maent wedi bod yn brysur yn ysgrifennu, perfformio a recordio eu cerddoriaeth wreiddiol, ac erbyn hyn, maen nhw wedi chwarae mewn dros gant o gigs. Rhyddhawyd eu sengl ddiweddaraf, 'Boddi' ar ddiwedd 2024 ac ar hyn o bryd maen nhw'n gweithio ar record fer newydd i’w rhyddhau'n fuan