Mae Tegid (Llion Williams) a Hudson (Rhodri Evan) wedi treulio pob Eisteddfod Genedlaethol efo’i gilydd (ar wahân i un) ers eu dyddiau coleg, ddiwedd y 70au.
Mae wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol fel bywyd: mae’n hedfan heibio, a’r dydd Sadwrn cyntaf yn ddydd Sadwrn olaf cyn i ni droi.
Ymunwn â’r ddau yn nhafarn yr Eagles ar brynhawn Sadwrn olaf a gwlyb Eisteddfod Llanrwst.
Mae’r ddau, fel pob blwyddyn arall, wedi treulio’r holl wythnos yn hiraethu am hen ‘lejands’ o eisteddfodau neu’n cynllunio’r sesh fawr ‘hilêriys’ nesaf. Tueddu i edrych yn ôl neu edrych ymlaen wna Tegid, heb flasu’r presennol a phob eisteddfod yn un niwl. Ond a all Hudson ei berswadio i fwynhau’r rŵan hyn, cyn ei bod hi’n rhy hwyr?
Mae’r gorffennol a’r presennol yn gymdogion agos a phob Eisteddfod yn ein hatgoffa o’r bobl fu’n rhannu’r profiad efo ni. Tra pery’r Eisteddfod mae’r bobl fu efo ni ar un adeg yn rhan o’n stori ni ac yn dal yn byw efo ni.
“Creu chwedle mae rhywun mewn ’steddfode ’nde?” - Tegid.
Cast – Rhodri Evan, Llion Williams.
Cyfarwyddo – Betsan Llwyd.
CANLLAW OED 12+ (AMBELL I REG)
Oes rhywun wedi gweld y Pernod King?