Y Lle Celf
Cyfle i glywed am adeilad newydd ecogyfeillgar Theatr Clwyd a fydd yn agor yr haf hwn, yng nghwmni swyddogion y theatr, y dylunydd Lois Prys a'r cogydd Bryn Williams
Bydd aelodau o’r panel yn cynnwys, Gwennan Mair (Cyfarwyddwr Cymuned, Lles ac Addysg Theatr Clwyd), Branwen Jones (Cynhyrchydd Theatr Clwyd), y dylunydd Lois Prys a’r cogydd Bryn Williams fydd yn agor ei fwyty newydd yn y theatr.
Yn cadeirio’r sgwrs bydd Leusa Llewelyn. Bydd cyfle i holi’r panel ar y diwedd.