Hanes bywyd Noel Thomas y cyn-bostfeistr o Ynys Môn a garcharwyd ar gam. Brwydrodd Noel Thomas yn ddygn dros nifer o flynyddoedd i adennill ei enw da ac i weld cyfiawnder er gwaethaf holl bŵer y Swyddfa Bost. Drwy'r cynhyrchiad yma, rydym yn dysgu mwy am ei fagwraeth a'r hyn roddodd iddo'r rhuddin a'r nerth i orchfygu heriau mawr bywyd
Gyda diolch i Gerwyn Williams, Gwasg y Bwthyn ac Aled Gwyn Job awdur cysgodol 'Llythyr Noel' a 'The Stamp of Innocence', dyma addasiad llwyfan Catrin Jones Hughes o'r llyfrau hynny a'i fersiwn hi o hanes a bywyd Noel Thomas.
Fel un sy'n byw yn yr un pentref a Noel Thomas a'i deulu, ystyria Catrin hi'n fraint i ysgrifennu a chyfarwyddo'r ddrama hon a hoffai ddiolch iddyn nhw, ac yn arbennig i Siân merch Noel, am bob cydweithrediad a chefnogaeth wrth baratoi at y cynhyrchiad
Mae Theatr Fach Llangefni yn dathlu pen-blwydd yn 70 oed eleni. Pa ffordd well o ddathlu felly na dathlu bywyd cymeriad lleol sydd wedi gwneud ei stamp yn genedlaethol?