Image: Hijinx's playful participatory street theatre show Enter the Robots. The robots lined up ready for action.
Theatr Stryd a Dawns

Yn y dyfodol, mae pawb yn cael anrheg o robot gan eu hawdurdod lleol. Beth allai fynd o’i le? Sioe theatr stryd chwareus, gyfranogol sy’n gofyn pwy sy’n rheoli pwy yn oes deallusrwydd artiffisial

"Helo bobl. Croeso i’ch dyfodol. Ymlaciwch. Arafwch. Gallwch stopio'r hyn yr ydych yn ei wneud. 'Does dim rhaid i chi weithio bellach. Arhoswch gartref. Rhowch eich traed i fyny. Mae popeth yn ein dwylo ni. Ni yw’r Robotiaid. Fe wnawn ni bopeth o hyn ymlaen."