Daw TwmpDaith a set newydd sbon o gerddorion a dawnswyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd. Yr un mor dalentog â'u traed ag y maent gyda'u hofferynnau a'u lleisiau, bydd eu brwdfrydedd ifanc, egni diderfyn a'u halawon Cymreig bywiog yn ysbrydoli pawb i ddawnsio mewn dim o dro
Mae'r band yn cynnwys naw o gerddorion a dawnswyr ifanc o dros Gymru. Daethpwyd a hwy ynghyd drwy “Prosiect WYTH” - prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig.
Mae TwmpDaith yn cydweithio gyda nifer o Fentrau Iaith yn lleol i ddod a noson o ddathlu ein traddodiadau gwerin i’ch ardal chi. Mae’r nosweithiau yr un mor boblogaidd gyda Chymry Cymraeg ag y maen nhw gyda siaradwyr newydd sy’n dysgu’r iaith a’r di-Gymraeg sydd eisiau dysgu mwy am ein cerddoriaeth a dawnsfeydd cynhenid. Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o ddawnsio i ddod i fwynhau'r noson.