Hwyl TwmpDaith yn Ty Gwerin 2024
Maes D

Supergroup o fand twmpath yw TwmpDaith gyda cherddorion a dawnswyr ifanc o bob rhan o Gymru a ddaeth at ei gilydd drwy 'Prosiect WYTH' a oedd yn hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig

Wedi'i ysbrydoli gan brosiect tebyg yn yr Alban o'r enw’r Ceilidh Trail, mae TwmpDaith wedi hyfforddi a mowldio'r grŵp yn fand twmpath bywiog a brwdfrydig. Mae'r prosiect wedi grymuso'r bobl ifanc i chwarae, cyfeilio, galw, perfformio eitemau a chynnal gweithdai a thwmpathau sy'n addas ar gyfer pob oedran a gallu.

Yr un mor dalentog â'u traed ag y maent gyda'u hofferynnau a'u lleisiau. Heb os, bydd eu brwdfrydedd ifanc, egni diderfyn a'u halawon Cymreig bywiog yn ysbrydoli pawb i ddawnsio mewn dim o dro. Peidiwch â cholli TwmpDaith - am chwistrelliad heintus o ddawnsio, clocsio ac alawon Cymreig!

Facebook Instagram X