Y Stiwdio

Yn dilyn galwad agored dewiswyd chwech o grewyr cerddoriaeth ar ddechrau eu gyrfa a chwe awdur ar ddechrau eu gyrfa i archwilio a chreu moment o opera gyda’i gilydd yn yr iaith Gymraeg – gyda chefnogaeth ac arweiniad gan y cyfarwyddwr cerdd Iwan Teifion Davies, yr awdur Gwyneth Glyn a Michael McCarthy o Music Theatre Wales. Dyma nhw’n cyflwyno rhai o'u golygfeydd chwareus, dramatig, ac unigryw