Mae VRï yn taflu goleuni newydd ar draddodiad gwerin bywiog Cymru wedi eu hysbrydoli gan gerddoriaeth a dawns a gafodd eu tawelu gan y capeli, fel yr iaith, cyn hynny, gan y Ddeddf Uno
Mae'r band yn harneisio egni amrwd y ffidil gyda cheinder y feiolin, a phrydferthwch cerddoriaeth siambr gyda llawenydd a phleserau sesiwn mewn tafarn, gyda harmonïau lleisiol pwerus yn sail i’r cyfan.
Wedi’u hysbrydoli gan stori anhygoel cyfnod pan gafodd cerddoriaeth a dawns draddodiadol Cymru eu darostwng gan gapeli’r Methodistiaid, ac, yn gynharach, ei hiaith gan y Ddeddf Uno.
Enillwyr Albwm Gorau Gwobrau Gwerin Cymru ddwywaith (albwm debut 'Tŷ Ein Tadau' (2019) ac 'Islais a genir' 2022), VRï yw Jordan Price Williams (sielo, llais), Aneirin Jones (feiolin, llais) a Patrick Rimes (feiola, feiolin, llais). Cynhyrchiad y Mwldan