Pafiliwn
Ymunwch â’r grŵp theatr gerdd 'Welsh of the West End' am ddetholiad o’u hoff ganeuon o fyd sioeau cerdd Cymru
Daeth y grŵp, sydd wedi denu dros 20 miliwn o wylwyr ar-lein, i sylw cynulleidfaoedd rhyngwladol wrth gyrraedd rownd gynderfynol byw Britain’s Got Talent ar ITV. Ers hynny, maent wedi perfformio mewn lleoliadau eiconig fel y Royal Albert Hall, London Palladium a Chanolfan Mileniwm Cymru, wedi serennu ar lwyfannau Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ac wedi cydweithio ag Undeb Rygbi Cymru fel yr adloniant ar y cae cyn gemau rygbi rhyngwladol i gynulleidfa o 75,000 o bobl.