WISP+  mewn perfformiad yng Ngŵyl Ysbryd Ryngwladol 2024 / in performance at International Spirit Festival 2024
Theatr Stryd a Dawns

Perfformiad dawns gan grŵp lleol WISP, sy'n cynnig cyfleoedd dawns cynhwysol, prosiectau coreograffig a pherfformiadau i blant, pobl ifanc ac oedolion sy'n byw gydag anghenion ychwanegol

I ni, mae dawns gynhwysol yn ymwneud ag ysbrydoli amrywiaeth a dileu rhwystrau; mae'n fan lle mae celf a phobl amrywiol yn dod at ei gilydd i ysgogi llu o bosibiliadau. Mae'r rhain yn cynnwys rhyngweithiadau ystyrlon dwys sy'n meithrin mynegiant artistig, yn annog lleisiau mewnol cyfranogwyr trwy daith bersonol drawsnewidiol sy'n ysbrydoli cyfranogiad a chydlyniant cymunedol.

Mae WISP yn sefydliad cymunedol dielw a chynhwysol sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed eleni ac mae’n falch o rannu gwaith eu grŵp oedolion yn Wrecsam, WISP+, gyda pherfformiad o 'Y llwybrau lliwgar', wedi’i goreograffu gan Amanda Smith a Megan Blease. Yr artistiaid cefnogi perfformiad yw Megan Blease a Hannah Roberts

Facebook Instagram Youtube