Mae sŵn pop amgen atmosfferig ac egnïol WRKHOUSE yn eu gosod yn gadarn ymysg cenhedlaeth newydd gyffrous o artistiaid Cymru, gyda'u halawon gafaelgar a'u trefniannau trwchus
Wedi eu henwi’n un o awgrymiadau Amazing Radio ar gyfer 2025 ac ennill Gwobr Triskel y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni maent newydd ddod â blwyddyn gyntaf gref i ben.
Mae eu EP hir-ddisgwyliedig ‘Out Of The Blue’ yn gyfanwaith dwyieithog hyderus, gyda chyfeiriadau at eu magwraeth yng ngogledd Cymru, ac maen nhw'n prysur gasglu pocedi o gynulleidfaoedd brwd o amgylch y wlad gan ddilyn llwyddiant eu taith Brydeinig gyntaf ym mis Ebrill.
Ymysg y rhain mae cylchgrawn CLASH, Siân Eleri (Radio 1) a Jess Iszat (BBC Introducing) yn canu eu clod.
Fis Hydref diwethaf, daeth WRKHOUSE â 2024 i ddiweddglo ffrwydrol, gan ryddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Take’