Cymdeithasau

Sgwrs am y dystiolaeth o ddylanwad tywydd eithafol ar strwythur Llyn Tegid a'i statws ecolegol

Rhoddir sylw arbennig i effeithiau haf oer 2010, gaeaf gwlyb 2014 a haf gwyntog 2012.

Wrth edrych yn ôl, gwelwyd mai’r prif reswm am y cyfnodau o dywydd eithafol oedd ansadrwydd y jetlif.

Cerrynt sy’n llifo yn uchel yn yr awyr ar draws yr Iwerydd yw’r jetlif a llwybr y llif sy’n bennaf gyfrifol am leoliad ardaloedd o wasgedd isel.

Hyd yn ddiweddar, yr oedd y cerrynt yn dilyn yr un llwybr o flwyddyn i flwyddyn ond, ers troad y mileniwm, y mae’r patrwm tymhorol wedi newid.

Yn y gaeaf, y mae bellach yn dilyn llwybr mwy troellog sy’n caniatáu i fwy o awyr oer gyrraedd Prydain o’r Arctig.

Yn yr haf, y mae yna duedd iddo symud ymhellach tua’r de i greu mur sy’n rhwystro gwasgedd uchel rhag lledu o’r cyfandir.

Does neb yn siŵr beth sy’n gyfrifol am y newid ond credir fod yr ia a gollwyd yn y gogledd yn rhan o’r ateb ynghyd a newidiadau cylchol yn nhymheredd y môr