Mared - Y Pentref a Les Mis yn 40!
Encore

Rhagflas o sioe gerdd newydd Mared Williams, mewn cydweithrediad â Frân Wen, sydd wedi'i hysbrydoli gan ddigwyddiad mawr yn ei bywyd ei hun, sef cau ei hysgol gynradd yn Llannefydd

Mae’r prosiect pwerus a hynod bersonol hwn yn archwilio’r effaith ar ei chymuned leol.

Mae Mared yn rhoi llais i’r straeon, yr atgofion, a’r emosiynau sy’n gysylltiedig â rhywle oedd yn galon i fywyd y pentref. Roedd cau'r ysgol yn golygu colli canolbwynt cymunedol hanfodol - man lle bu cenedlaethau’n cyfarfod, yn ffurfio cyfeillgarwch, ac yn meithrin ymdeimlad o hunaniaeth.

Mae’r gwaith yn ei gamau cynnar a bydd y gynulleidfa yn Encore ymhlith y cyntaf i brofi’r caneuon newydd wrth i Mared rannu ei phroses gyfansoddi a’r daith emosiynol o greu'r sioe.

Sesiwn llawn cerddoriaeth, cofio, cysylltu a chymunedau