Y Stiwdio
Tair cân newydd gan Brian Hughes ar gyfer llais soprano a phiano. Y tri aderyn yw'r eos, y wennol a'r ehedydd, ac mae'r perfformiad hwn yn deyrnged i ID Hooson a Gareth Pritchard Hughes
Meddai Brian Hughes: "Pan sonia ID Hooson am Bryn-y-brain a choed y plas, gwn yn union am y man mae'n ei ddisgrifio.
"Roedd Gareth Pritchard Hughes hefyd yn adnabod y mannau cyfrin hyn, ac wedi bod yn gymydog i'r bardd, a'r ddau yn aelodau yng Nghapel Mawr, Rhos. Roedd Gareth yn llenor, yn faswr godidog, yn gerddor, ac yn ffrind i bawb yn y Rhos a'r Poncie. Byddai wrth ei fodd yma heddiw gyda ni yn gwrando ar eiriau hudolus y bardd ar adain cân."