Sefydlwyd yr ysgoloriaeth i hyrwyddo cerddoriaeth glasurol yng Nghymru a'i dyfarnu i gefnogi datblygiad proffesiynol y cystadleuydd yn y diwydiant canu clasurol.
Gwahoddir pob cystadleuydd i ragbrawf ar ddydd Sul cyntaf yr Eisteddfod i gyflwyno rhaglen hyd at 15 munud sy’n cynnwys o leiaf un gân gan gyfansoddwr/ gyfansoddwraig o Gymru a chenir pob un o'r caneuon yn Gymraeg. Cysylltwch â cystadlu@eisteddfod.cymru i wirio argaeledd cyfieithiadau.
Yn ychwanegol, rhaid paratoi cyflwyniad ysgrifenedig hyd at 200 o eiriau yn nodi bwriad y defnydd o'r Ysgoloriaeth.
Wedi’r dyfarniad, gwahoddir holl gystadleuwyr y gystadleuaeth i sesiwn weithdy (working session) ar faes yr Eisteddfod gydag aelodau o’r panel beirniadu. Gofynnir i'r cystadleuwyr uwch-lwytho fideo (selftape) o gân allan o'r rhaglen fydd o dan ystyriaeth ar gyfer y sesiwn gweithdy cyn 15 Mehefin, a rhain fydd y caneuon o dan ystyriaeth ar gyfer y sesiwn gweithdy.
Bydd yr Eisteddfod yn darparu cyfeilydd ar gyfer y gystadleuaeth hon ond bydd hawl gan gystadleuwyr i ddefnyddio cyfeilyddion eu hunain. Bydd hawl gan y panel beirniaid i atal yr ysgoloriaethau neu i’w rhannu rhwng mwy nag un enillydd.
Gwobrau:
- Ysgoloriaeth W Towyn Roberts er cof am ei briod, Violet Jones, Nantclwyd, ac Ysgoloriaeth William Park-Jones a £5000
- £3000
- £1000
- £500
Beirniaid: Kate Baylis, Elin Pritchard a Catrin Wyn-Davies
Cyfeilydd: Jeffrey Howard